Member Login

Swydd ar gael

author icon author icon 26/04/2023 author icon Newyddion

Rydym yn chwilio am berson â phrofiad byw i weithio ar brosiect eiriolaeth.

Pwrpas y prosiect yw cefnogi’r A.D.S.S (Cyfarwyddwyr Cysylltiedig Gwasanaethau Cymdeithasol) i ddatblygu Fframwaith Eiriolaeth i Gymru.

Bydd angen i’r person weithio ledled Cymru ac weithiau gartref.

Y cyflog yw £200 y diwrnod. Hyd at 25 diwrnod dros 12 mis.

Rydym yn gofyn i unrhyw un sydd â diddordeb, i ateb y tri chwestiwn canlynol mewn e-bost at Julie.Boothroyd@ADSS.Cymru a Joe Powell Joe@allwalespeople1st.co.uk

1) Dywedwch wrthym pam y gallwch chi wneud gwahaniaeth i’r prosiect hwn?

2) Dywedwch wrthym am brofiad da gydag eiriolaeth yn eich bywyd. A phrofiad gydag eiriolaeth, nad oedd cystal?

3) Beth ydych chi’n gobeithio ei ddysgu trwy fod yn rhan o’r prosiect hwn?

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 8 Mai

Byddwn yn cynnal proses gyfweld fer i benodi’r person.

Mwy o wybodaeth am y swydd yma

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *