Kelly Stuart
08/07/2026
Newyddion
Mae Llywodraeth Cymru ac GIG Cymru wedi cyhoeddi adroddiad am nifer y preswylwyr yng Nghymru sydd ag anableddau dysgu ac sy’n cael eu cadw mewn cyfleusterau ysbyty arbenigol ar gyfer anableddau dysgu neu iechyd meddwl yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r wybodaeth yn dangos bod 129 o bobl ag anableddau dysgu yn parhau i fod yn gaeth mewn unedau arbenigol ledled Cymru a Lloegr.
Yn waeth fyth, mae nifer y bobl sy’n cael eu derbyn yn uwch na nifer y rhai sy’n cael eu rhyddhau. Mae mwy o bobl yn mynd i’r sefydliadau hyn nag sy’n gadael.
Dyma ddywedodd ein Prif Weithredwr, Joe Powell:
“Tu ôl i bob rhif mae person sydd wedi’i dorri i ffwrdd oddi wrth ei deulu, ei gymuned a’i annibyniaeth oherwydd diffyg difrifol o ran gofal cymdeithasol a thai lleol.
Mae angen cyllid wedi’i glustnodi arnom ar gyfer tai cymunedol arbenigol nawr. Dim mwy o fylchau systemig. Dim mwy o fywydau wedi’u dwyn.
Fel cyfranogwyr yn y gwaith hanfodol sydd eisoes wedi’i gwblhau o dan y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Anabledd Dysgu, rydym yn croesawu’r cam hwn ymlaen o ran tryloywder data. Er bod angen cadarnhau strwythurau cynghori ffurfiol ar gyfer tymor newydd y llywodraeth o hyd, mae’r ffigurau hyn – ynghyd ag adroddiad mis Ionawr, ‘O Ysbytai i Gartrefi’ yn profi pam y mae’n rhaid i gyd-gynhyrchu a mewnbwn cynghorol arbenigol barhau.
Mae’r data yn tanlinellu realiti llwm: mae angen yr adnoddau a’r cyllid cywir arnom ar frys i symud pobl ag anableddau dysgu allan o ysbytai pan nad oes angen iddynt fod yno”.
Adroddiad ar gleifion mewnol ag anableddau dysgu mewn ysbytai arbenigol yma:
Adroddiad ‘O Ysbytai i Gartrefi’ yma:


Cwmni sydd yn gyfyngedig drwy warant : Rhif: 6833956
