Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan ydy llais unedig grwpiau hunan-eiriolaeth a phobl gydag anableddau dysgu yng Nghymru.
Mae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn sefydliad ar gyfer, ac arweinir gan, pobl gydag anableddau dysgu. Mae’n unigryw yng Nghymru gan mai dyma’r unig sefydliad cenedlaethol arweinir gan aelodau sydd yn cynrychioli lleisiau pobl gydag anabledd dysgu.
Mae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn cael ei lywio gan Gyngor Cenedlaethol o aelodau, sydd yn cael eu hethol ar lefel lleol drwy’r 22 ardal awdurdodau lleol ledled Cymru.
Mae’r Cyngor Cenedlaethol yn sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn cael eu cynnwys fel dinasyddion gweithgar yng nghymdeithas Cymraeg.
Datganiad o fwriad
Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan ydy llais unedig grwpiau hunan-eiriolaeth a holl bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru. Mae’n rhannu ymwybyddiaeth a gwybodaeth i gyflawni hawliau cyfartal a delwedd bositif.
Beth yw ein bwriad?
Mae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn bwriadu sicrhau bod y bobl yng Nghymru sydd ag anableddau dysgu yn cael mynediad i gefnogaeth hunan-eiriolaeth, fel y gallant leisio’u dewis a chael rheolaeth.
Rydym eisiau sicrhau bod pobl gydag anableddau dysgu yn deall eu hawliau, yn enwedig eu Hawliau Dynol.
Rydym am sicrhau bod pobl gydag anableddau dysgu yn gallu cael mwy o annibyniaeth ac ansawdd bywyd gwell, un maent yn ei ddewis eu hunain.
Rydym yn awyddus i hyrwyddo gwerthoedd hunan-eiriolaeth fel gwasanaeth ataliol, ac i symud i ffwrdd o ddibyniaeth ar wasanaethau sydd yn tanseilio byw yn annibynnol.
Beth ydy hunan-eiriolaeth?
Mae hunan-eiriolaeth yn golygu siarad ar ran eich hun. Mae’n ymwneud â chynyddu hyder a sgiliau i wneud penderfyniadau eich hun.