Member Login

Bocs Sebon Joe: Tachwedd 2026

author icon author icon 23/11/2026 author icon Bocs Sebon JoeNewyddion

Tynnodd rhai o’n haelodau fy sylw at raglen ddogfen aflonyddgar ar Channel 4 o’r enw ‘The Experiment’.

Mae ‘The Experiment’ yn creu sefydliad gofal o’r enw ‘Segri-Life’, sy’n seiliedig ar ideoleg y Natsïaid.

Mae ‘Segri-Life’ yn golygu gwahanu pobl anabl oddi wrth y gymdeithas gyffredin.

Defnyddiodd yr arbrawf bosteri cadarnhaol i wneud i bethau edrych fel pe bai ‘Segri-Care’ yn well i bobl anabl ac i gymdeithas. Gelwir hyn yn bropaganda.

Darbwyllodd y Natsïaid y cyhoedd bod pobl anabl yn ‘faich ar gymdeithas’ a’u disgrifio fel ‘bwytawyr diwerth’. Mae hyn yn cyfeirio at bobl yr oeddent yn credu nad oeddent yn cyfrannu dim i gymdeithas.

Nod ‘The Experiment’ oedd profi a ellid darbwyllo aelodau o’r cyhoedd ym Mhrydain y byddai rhoi pobl anabl yn ôl mewn sefydliadau – lle byddent yn cyflawni tasgau israddol – yn well i bobl anabl ac i gymdeithas.

Nod yr Arbrawf oedd profi a fyddai’n bosibl perswadio’r cyhoedd ym Mhrydain y byddai rhoi pobl anabl yn ôl mewn sefydliadau – lle byddent yn cyflawni tasgau israddol – yn well i’r bobl anabl eu hunain ac i gymdeithas.

Gwahoddwyd aelodau o’r cyhoedd i weld yr hyn a ddisgrifiwyd wrthynt fel syniad newydd a blaengar o ran darparu cymorth.

Roedd y negeseuon yn gynnil, ond roeddent yn cynnwys awgrymiadau ynglŷn â gwahanu’r rhywiau, yn ogystal â rheoli genedigaethau a sterileiddio.

Roedd pwyslais mawr hefyd ar faint o arian y gellid ei arbed.

Actorion oedd y staff a’r bobl anabl yn y rhaglen ddogfen, ac roedd ymatebion y cyhoedd yn amrywiol.

Roedd rhai o’r farn ei fod yn syniad gwirioneddol dda. Dywedodd un person hyd yn oed y byddai’n hoffi byw yno ei hun.

Fodd bynnag, roedd un arall wedi dychryn, ac roedd yn gallu gweld y sefyllfa am yr hyn oedd hi mewn gwirionedd.

Cafodd y rhai a gefnogodd y syniad sioc pan ddaeth y gwirionedd i’r amlwg.

Nod y rhaglen oedd tynnu sylw at y ffordd y gall negeseuon anghywir gan rai gwleidyddion a’r cyfryngau greu stigma yn erbyn pobl anabl.

Roeddwn i’n meddwl bod y rhaglen yn rhagorol, ac roedd ei hangen yn fawr ar adeg o wybodaeth anghywir a chamddealltwriaeth.

Dydw i ddim eisiau dychryn ein haelodau, ond ni allwn anwybyddu’r posibilrwydd y gallai bywydau pobl anabl fynd yn ôl.

Yn enwedig ar adegau pan fo arian ac adnoddau yn brin.

Mae’r ymgyrch ‘Cartrefi, nid Ysbytai’ (Homes Not Hospitals) yn enghraifft allweddol o hyn.

Mae pobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn cael eu rhoi mewn ysbytai oherwydd nad yw’r gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt yn bodoli.

Rhaid i ni gydnabod nad cyflyrau meddygol sydd angen eu trin mewn ysbytai yw anableddau dysgu ac awtistiaeth.

Weithiau, mae pobl yn chwilio am atebion hawdd ac am rywun i’w beio am broblemau cymdeithas.

Yn yr Almaen Natsïaidd, roedd Iddewon, pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol, pobl anabl a dynion hoyw ymhlith y rhai a gafodd eu beio a’u herlid.

Heddiw, gwelwn lawer o gyhoeddusrwydd negyddol am bobl anabl a cheiswyr lloches.

Daw hyn nid yn unig o’r cyfryngau, ond gan rai gwleidyddion hefyd.

Yn aml, disgrifir y syniadau y maent yn eu hyrwyddo fel syniadau poblyddol. Gall y rhain fod yn boblogaidd ymysg y cyhoedd, ond nid ydynt o reidrwydd yn seiliedig ar ffeithiau.

Nid yw pobl bob amser yn ymwybodol, mae’n debyg, o’r hyn all ddigwydd pan ganiateir i agweddau negyddol tuag at bobl anabl dyfu.

Yn yr Almaen Natsïaidd, nid oedd pawb yn deall canlyniadau llawn yr hyn oedd yn digwydd. Heddiw, rydym yn deall, oherwydd mae hanes wedi ein dysgu.

Yr hyn rwyf bob amser yn ei ddweud wrth aelodau – a byddaf yn parhau i’w ddweud – yw mai dyma pam mae’n rhaid i ni wybod ein hanes.

Mae angen i ni ddeall beth all ddigwydd pan fydd pethau’n mynd o’i le, a pham mae’n rhaid i ni sicrhau na fydd hynny byth yn digwydd eto.

Mae angen i ni hefyd ddeall y geiriau negyddol a ddefnyddiwyd amdano ni yn y gorffennol, er mwyn i ni wybod pam mae’n rhaid i ni eu herio.

Dyma pam nad wyf fi, yn bersonol, yn osgoi atgoffa ein aelodau o’r pethau hyn, hyd yn oed pan maent yn anghyfforddus i’w clywed.

Mudiad cymdeithasol a gwleidyddol yw ‘People First’. Rydym yn bodoli i sicrhau newid gwleidyddol a chymdeithasol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.

Dyma pam rydym yn gweithio mor galed i annog pobl ag anableddau dysgu i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a defnyddio eu pleidlais.

Roedd ‘The Experiment’ yn tynnu sylw at y ffaith bod hon yn realiti y mae’n rhaid i bobl anabl ym Mhrydain barhau i boeni amdani heddiw.

Mae’n naratif rwy’n ei glywed dro ar ôl tro: y syniad bod cefnogaeth dda yn ddymunol ond nid yn flaenoriaeth, yn enwedig yn ystod cyfnodau o galedi ariannol.

Mae rhai o’r negeseuon hyn mor gynnil fel nad yw pobl hyd yn oed yn sylwi arnynt. Gall eraill ddarllen rhwng y llinellau a gweld beth maen nhw’n ei olygu mewn gwirionedd.

Gallaf eisoes weld pethau’n mynd yn ôl o’i gymharu â’r cyfnod y treuliais mewn gofal – ac nid oedd fy mhrofiad o ofal yn un cadarnhaol.

Dyma pam mae angen i hunan-eiriolwyr gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, a pham mae’n rhaid iddynt herio naratifau anwir.

Mae hunan-eiriolaeth yn bwysicach nawr nag ar unrhyw adeg arall yn ystod fy oes.

Mae’n llawer haws lleisio barn ac atal pethau rhag mynd yn ôl, nag ydyw ceisio trwsio pethau ar ôl iddynt fynd o’u lle.

Mae’n bwysig bod y cyfryngau a’n gwleidyddion yn rhoi gwybodaeth gywir i’r cyhoedd am bobl sy’n hawlio budd-daliadau.

Mae llawer o bobl anabl yn gweithio, ac nid yw’r rhan fwyaf o’r rhai nad ydynt yn gweithio yn gallu gwneud hynny, oherwydd nad yw’r cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo ar gael.

Ers blynyddoedd lawer, mae pobl anabl wedi bod yn galw ar gymdeithas i’w helpu i chwarae rhan lawn a gweithredol ynddi, trwy gyfrwng y Model Cymdeithasol o Anabledd.

Nid ceisio osgoi gweithio y mae pobl anabl, ond yn aml cânt eu beio am fyw ar fudd-daliadau.

Dyma pam mae’n rhaid i ni i gyd sefyll gyda’n gilydd, herio naratifau anwir, a dangos i eraill y cyfraniad y gallwn ei wneud i gymdeithas os cawn y cyfle.

Buddugoliaeth i Hunan-eiriolaeth!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *