Member Login

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymrwymiad i gefnogi a gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu

author icon author icon 20/01/2026 author icon Newyddion

Heddiw, mae Sarah Murphy AS, Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, wedi rhyddhau datganiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau a chymorth i bobl ag anableddau dysgu.

“Rydym wedi ymrwymo i wella – a thrawsnewid gwasanaethau cleifion mewnol arbenigol – yn unol ag adolygiad Bywydau wedi’u Dwyn Cymru: Cartrefi nid Ysbytai o ddarpariaeth gymunedol a chleifion mewnol”.

Cyhoeddodd y Gweinidog ymrwymiad Llywodraeth Cymru i raglen drawsnewid gwasanaethau anabledd dysgu integredig tair blynedd ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a thai, o fis Ebrill 2026 i fis Mawrth 2029.

Mae adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Bywydau wedi’u Dwyn y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Anableddau Dysgu (LDMAG) hefyd wedi’i gyhoeddi heddiw.

Gallwch ddarllen datganiad y Gweinidog ar wefan Llywodraeth Cymru, yma: https://www.llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-polisi-anabledd-dysgu-blaenoriaethau-cyflawniadau-chynlluniau?_gl=1*dszocf*_ga*MTIyMTY4MjI4Ni4xNzY3NjEzNTc4*_ga_L1471V4N02*czE3Njg5MTA2OTIkbzMkZzEkdDE3Njg5MTMyODIkajYwJGwwJGgw

Gallwch ddarllen yr adroddiad gan y LDMAG ar wefan Llywodraeth Cymru, yma: https://www.llyw.cymru/o-ysbytai-i-gartrefi-gwasanaethau-cleifion-mewnol-anabledd-dysgu

Gallwch ddarllen y fersiwn Hawdd ei Ddeall o’r adroddiad Bywydau wedi’u Dwyn yma: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2026-01/o-ysbytai-i-gartref-hawdd-ei-ddeall-20-01-26.pdf

Mae datganiad y Gweinidog yn rhoi clod i fewnbwn Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Anableddau Dysgu (LDMAG). Mae Prif Weithredwr AWPF a sawl aelod yn rhan o LDMAG ac felly mae eich lleisiau wedi cael eu clywed fel rhan o’r gwaith hwn.


Dyma beth sydd gan Brif Weithredwr AWPF, Joe Powell, i’w ddweud am weithio ar yr adroddiad a’r cyhoeddiad diweddaraf….

“Rwyf wrth fy modd ein bod o’r diwedd yn gallu rhannu’r adroddiad O Ysbytai i Gartrefi heddiw, yn dilyn ei gyhoeddi ynghyd â Datganiad Gweinidogol gan Sarah Murphy AS. Cyd-awdurwyd yr adroddiad gennyf fi ac aelodau o’r tîm Bywydau wedi’u Dwyn, a chafodd ei ddatblygu trwy Grŵp Gorchwyl a Gorffen Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Anabledd Dysgu ar Gartrefi nid Ysbytai, a gyd-gadeiriwyd gennyf fi a Sophie Hinksman.

Mae’r adroddiad yn nodi argymhellion clir ar gyfer sut y gallwn gefnogi pobl ag anableddau dysgu a phobl awtistig i symud allan o ysbytai diogel ac i gartrefi yn eu cymunedau lleol. Yn rhy aml, mae pobl yn cael eu rhoi mewn lleoliadau ysbyty diogel, nid oherwydd bod angen iddynt fod yno, ond oherwydd nad yw’r gwasanaethau a’r gefnogaeth gymunedol y mae ganddynt hawl iddynt yn cael eu darparu.

Hyd y gwn i, yr adroddiad hwn yw’r cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig ac mae’n cynrychioli cam pwysig ymlaen. Fodd bynnag, mae’r gwaith ymhell o fod wedi’i gwblhau. Mewn sawl ffordd, dim ond newydd ddechrau ydyw. Yr hyn sy’n bwysig nawr yw beth sy’n digwydd nesaf: troi’r argymhellion hyn yn gamau gweithredu ystyrlon a pharhaol”.


Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *