Kelly Stuart 15/03/2024 Newyddion
Rydym ni yn Genefa ar gyfer gwaith craffu’r Cenhedloedd Unedig ar Gofnod Hawliau Dynol Llywodraeth y DU
Mae Joe Powell ein Prif Weithredwr wedi mynd i Genefa am rai dyddiau, gyda llawer o gynrychiolwyr eraill o Sefydliadau Pobl Anabl (DPOs) y DU. Bydd llywodraeth y DU yn wynebu’r Cenhedloedd Unedig ynglŷn â thorri hawliau pobl anabl.
Mae DPOs yno i glywed y dystiolaeth.
Gwyliwch y dystiolaeth
Pryd? Dydd Llun, Mawrth 18, 2024
Pa amser? 2pm-3:30pm amser y DU (bydd yn digwydd am 3pm ar gylchfa amser Genefa).
Os na allwch ei wylio’n fyw, dylai’r recordiad fod ar gael yn nes ymlaen ar y ddolen isod.
Ble? Gallwch ei wylio ar-lein trwy wefan llif byw y Cenhedloedd Unedig, trwy’r ddolen hon. ? You can watch it online via UN livestream website, at this link.
Bydd y gwrandawiad ar gael mewn iaith arwyddion Ryngwladol, sy’n wahanol i BSL.
Bydd capsiynau ar y llif byw hefyd. Sut gallwch chi gymryd rhan 1. Chwiliwch #CRDP24 ar gyfryngau cymdeithasol 2.
Sut gallwch chi gymryd rhan
- Dilynwch y ddirprwyaeth ar X (Twitter yn flaenorol): https://twitter.com/i/lists/1766837090061287862
2. Chwiliwch am #CRDP24 ar gyfryngau cymdeithasol
3. Gallwch chi rannu’r negeseuon trwy eu hailbostio
4. Rhannwch eich barn eich hun am yr hyn a ddywedir yn y gwrandawiad, gan ddefnyddio #CRDP24
5. Rhannwch fideo am eich profiad byw eich hun
6. Ysgrifennwch at eich AS yn galw am ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yn neddfwriaeth y DU.
Dyma enghraifft o lythyr y gallwch ei ddefnyddio neu ei addasu os hoffech.
Gallwch ddod o hyd i’ch AS yma https://members.parliament.uk/FindYourMP