Kelly Stuart 16/03/2020 Newyddion
16 Mawrth 2020
Coronavirus COVID-19
Mae yna lawer yn y newyddion am salwch o’r enw Coronavirus ar hyn o bryd. Weithiau mae pobl yn galw Coronavirus yn enw arall COVID-19
Mae Pobl yn Gyntaf Cymry Gyfan yn awyddus i helpu’r tîm staff, gwirfoddolwyr ac aelodau i fod mor ddiogel â phosibl tra bo salwch Coronavirus o gwmpas.
Rydym yn dilyn y rheolau y mae’r Llywodraeth yn dweud y mae’n rhaid i ni eu dilyn er mwyn cadw’n ddiogel.
Byddwn yn postio gwybodaeth ddefnyddiol ar Facebook ac ar ein gwefan am gamau y gallwch eu cymryd i gadw’n ddiogel tra bo’r Coronavirus o gwmpas.
Pan fydd y rheolau ynghylch aros yn ddiogel yn newid, byddwn yn helpu aelodau i ddeall beth mae hyn yn ei olygu iddyn nhw.
Pan fydd y Llywodraeth yn newid y rheolau ynghylch cadw’n ddiogel, byddwn yn postio gwybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol ac ar ein gwefan.
Ni fydd tîm staff Pobl yn Gyntaf yn mynychu unrhyw gyfarfodydd wyneb yn wyneb tan yr wythnos waith sy’n dod i ben ar 3 Ebrill.
O ddydd Gwener y 3ydd o Ebrill bydd y Prif Weithredwr yn penderfynu bob dydd Gwener ar ôl hynny, a all y tîm staff ddechrau mynychu cyfarfodydd wyneb yn wyneb.
Bydd tîm staff Pobl yn Gytaf Cymry Gyfan yn dal i weithio eu horiau arferol gartref, er na fyddant allan yn mynychu cyfarfodydd.
Byddwn yn cadw mewn cysylltiad â’n gilydd trwy gyfarfodydd ffôn, cyfarfodydd Facetime a Skype.
Mae tîm staff Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan ar gael yn ôl yr arfer ar y ffôn neu e-bost ar gyfer unrhyw aelodau sydd am ofyn cwestiwn.
Os bydd yn rhaid i ni ganslo cyfarfodydd, byddwn yn rhoi gwybod i bobl dros y ffôn neu e-bost cyn gynted â phosibl.
Byddwn yn rhoi bwletin diweddaru wythnosol ar ein gwefan am unrhyw gyfarfodydd aelodau neu brosiect y mae angen i ni eu canslo.
Byddwn yn e-bostio ein bwletin diweddaru wythnosol at grwpiau aelodau.
Joe Powell, Prif Weithredwr, Pobl Bobl yn Gyntaf yn Gyntaf