Kelly Stuart
11/12/2025
Newyddion
Mae Llywodraeth Cymru eisiau gwybod beth yw eich barn chi am y Datganiad Ansawdd drafft.
Mae’r Datganiad Ansawdd yn ymwneud â gwneud iechyd a gofal cymdeithasol yn well i bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru.
Rydym wedi teithio ledled Cymru yn gofyn i lawer ohonoch chi beth yw eich barn chi.
Os na chawsoch chi gyfle i’n gweld ni, nid yw’n rhy hwyr i ddweud eich dweud.
Cliciwch y ddolen hon i wylio fideo byr am y Datganiad Ansawdd ac i roi eich atebion i’r cwestiynau.
http://Sut olwg sydd ar iechyd a gofal cymdeithasol da? – Fill in form
Neu defnyddiwch y cod QR hwn


Cwmni sydd yn gyfyngedig drwy warant : Rhif: 6833956
