Member Login

Ymgynghoriadau – Cyfnod 3 o roi Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ar waith

author icon author icon 06/06/2018 author icon Newyddion

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi tri ymgynghoriad yn ymwneud â Chyfnod 3 o roi Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ar waith.

Mae’r Ddeddf yn sefydlu system newydd ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol sy’n amddiffyn hawliau dinasyddion Cymru i gael gofal a chymorth diogel, perthnasol, gydag urddas.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar welliannau i’r ffordd y rheoleiddir gwasanaethau maethu, gwasanaethau lleoli oedolion ac, am y tro cyntaf, gwasanaethau eirioli mewn perthynas ag eiriolaeth statudol i blant.

Mae’r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig, sydd ar gael yn:
https://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2018/phase3/?skip=1&lang=cy

Mae Llywodraeth Cymru yn trefnu sesiynau gwybodaeth i gynorthwyo’r ymgynghoriadau:

• Wrecsam, dydd Mercher 20 Mehefin 2018
• Caerdydd, dydd Iau 19 Gorffennaf 2018
Er mwyn bod yn bresennol, cysylltwch â RISCAct2016@llyw.cymru erbyn dydd Gwener 8 Mehefin (digwyddiad Wrecsam) neu ddydd Gwener 6 Gorffennaf (digwyddiad Caerdydd). Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig ac yn dibynnu ar argaeledd.

Mae’r ymgynghoriadau yn dod i ben ddydd Iau 16 Awst 2018.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *