Promo Cymru 01/10/2017 Bocs Sebon Joe
Croeso i’m mlog cyntaf ‘Bocs Sebon Joe.’
Heddiw hoffwn siarad gyda chi am ein Cynhadledd Genedlaethol 2017.
Teitl cynhadledd eleni ydy ‘SOS Achub Ein Hunan-Eiriolaeth (Save Our Self -Advocacy). Dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn tuag ato.
Hoffwn i ni ddefnyddio’r gynhadledd yma i geisio achub hunan-eiriolaeth yng Nghymru. Credaf mai ni yw’r bobl gorau i wneud hynny. Dwi’n meddwl mai’r ffordd gorau i wneud hynny ydy i fod yn onest gyda’n hunain, am y pethau rydym yn ei wneud yn dda, a ddim mor dda.
Weithiau golygai hyn wrando ar bethau sydd yn anodd eu clywed. Dwi’n meddwl bod hyn yn bwysig. Mae angen dewrder i dderbyn y posibilrwydd bod angen newid pethau. Ond credaf y gall pawb fod yn ddewr, gan gynnwys Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan.
Fel y gwyddoch chi, nid wyf yn gyfrifol am y grwpiau lleol. Nid allaf newid y ffordd mae grwpiau yn gweithio. Ond gallaf newid sut mae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn gweithio. Hoffwn glywed am y pethau gallem ei wneud yn well. Hoffwn glywed gennych chi yn y gynhadledd.
Rwyf am i Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan barhau i wrando ar adborth a gwella. Dyma pam ein bod yn cynnal gwerthusiad. Mae gwerthusiad yn edrych os gellir gwneud pethau’n well. Ar yr ail ddiwrnod byddem yn rhannu ffurflenni gwerthuso.
Cymerwch ran os gwelwch yn dda. Rwyf yn addo byddaf yn gwneud fy ngorau glas i wrando a dysgu o’r adborth.
Dewch i’r gynhadledd a gadewch i ni newid gyda’n gilydd.
Gadewch i ni ‘Achub Ein Hunan-Eiriolaeth’.