Member Login

Gwobrau M.I.R.R.O.R. 2021

author icon author icon 15/03/2021 author icon Newyddion

Rydyn ni’n cynnal seremoni wobrwyo ar-lein yn AdFest ar 23 Mehefin. Nod y gwobrau yw dathlu’r pethau gwych mae hunan-eiriolwyr a grwpiau wedi’u gwneud dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae 6 gwobr. Gallwch chi enwebu eich hun am 1 wobr neu fwy nag 1 wobr. Gallwch chi hefyd enwebu rhywun arall am wobr.

Dyma’r 6 gwobr:

1. Aelodau – Gwobr Goffa Linton Gower Mae’r wobr hon i aelodau sydd wedi gwneud rhywbeth rhagorol i gyfrannu at redeg eu grŵp hunan-eirioli. 2. Syniadau Mae’r wobr hon i aelod, neu grŵp, sydd wedi gweithio gyda phobl eraill ar syniad. Dylai’r syniad fod yn rhywbeth sy’n gwella bywydau pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru.

3. Hawliau Bydd y wobr hon yn mynd i aelod neu grŵp sydd wedi helpu pobl i ddysgu am eu hawliau neu eu defnyddio.

4. Ystyried Bydd y wobr hon yn mynd i unigolyn neu grŵp sy’n gallu dangos eu bod wedi dysgu o’u profiadau a gwneud newid.

5. Mudiad

Mae’r wobr hon i grŵp sydd wedi gweithio gyda’i gilydd i fod yn grŵp cryf ac wedi cynnwys pawb.

6. Adolygiad Mae’r wobr hon i grŵp neu aelod sydd wedi cyflawni rhywbeth arbennig.

Gallwch chi enwebu eich hun neu rywun arall am wobr drwy ffonio Sarah neu anfon e-bost ati i ddweud · Pwy ddylai ennill y wobr yn eich barn chi · Pa wobr ddylen nhw ei hennill · Pam ddylen nhw ei hennill yn eich barn chi · Eich manylion cyswllt i ni gael mwy o wybodaeth Gallwch chi anfon e-bost at Sarah yn sarah@allwalespeople1st.co.uk Neu gallwch chi ffonio Sarah ar 07399069609 ar ddydd Mawrth neu ddydd Iau rhwng 10am a 3pm. Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan Gyd-Gadeiryddion Bwrdd Cyfarwyddwyr AWPF.

Bydd enillydd pob gwobr yn cael ei gyhoeddi yn y seremoni wobrwyo yn ystod AdFest ar 23 Mehefin.

Rhaid i’r holl enwebiadau ddod i law erbyn dydd Gwener 7 Mai am 5pm

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *