Yr hyn a wyddom am gynlluniau Llywodraeth y DU i newid y system budd a chymorth
Ar 18 Mawrth 2025, cyhoeddodd Llywodraeth y DU eu bod yn bwriadu gwneud newidiadau mawr i’r system fudd-daliadau a chymorth. Fe wnaethon nhw gyhoeddi ‘Papur Gwyrdd’ ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus am eu cynlluniau. Enw’r Papur Gwyrdd yw ‘Llwybrau at Waith: Diwygio Budd-daliadau a Chymorth i Gael Prydain i Weithio.
Ni chyhoeddwyd unrhyw fformat Hawdd ei Ddarllen.
Ar 19 Mawrth ychwanegwyd nodyn at dudalen we’r ymgynghoriad, i ddweud y bydd fformatau hygyrch yn cael eu hychwanegu cyn gynted â phosibl.
Byddwn yn ychwanegu mwy o wybodaeth yn fuan!
Ychwanegwyd fformatau hygyrch yr ail wythnos o Ebrill. Dyma ddolen i fersiwn hawdd ei darllen.
Dyma ddolen i’r fersiwn Gymraeg
https://assets.publishing.service.gov.uk/media/67f395557ed82b90fcf5bf86/llwybrau-at-waith.pdf
Fformatau eraill yma
Ar 30 Mehefin, cyhoeddodd y Llywodraeth ddatganiad am wneud dau newid i’r Bil Credyd Cynhwysol a Thaliad Annibyniaeth Personol. Darllenwch y datganiad yma https://questions-statements.parliament.uk/written-statements/detail/2025-06-30/hcws755
Ar 1 Mehefin 2025 yn Nhŷ’r Cyffredin, cynhaliwyd Ail Ddarlleniad o’r Bil Credyd Cynhwysol a Thaliad Annibyniaeth Personol.
Pleidleisiodd ASau ar y Bil. Roedd mwy o bleidleisiau o blaid y Bil nag oedd yn ei erbyn.
Bydd nawr yn mynd ymlaen i’r cam deddfu nesaf.
Beth ydyn ni’n ei wneud?
- Rydym wedi gofyn i’n haelodau ag anableddau dysgu beth yw eu barn am gynigion Llywodraeth y DU.
- Byddwn yn gwneud mwy o hyn dros y misoedd nesaf.
- Rydym yn cynnal 5 sesiwn ar-lein i siarad ag aelodau a staff cymorth am yr ymgynghoriad
- Rydym yn cynnal sesiwn ar-lein i gefnogi grwpiau hunan eiriolaeth a staff cefnogi gyda’r ymgynghoriad.
- Rydym wedi ysgrifennu datganiad sefyllfa am hyn – byddwn yn ei rannu yma yn fuan!
- Gwnaethom ofyn am fersiwn Hawdd ei Ddarllen o’r ymgynghoriad.
- Byddwn yn ymateb i’r ymgynghoriad.
- Rydym wedi gwneud llythyr enghreifftiol i bobl ag anableddau dysgu ei ddefnyddio os ydynt am ysgrifennu at eu Haelodau Seneddol.
- Cynhaliom weithdy ar-lein i helpu pobl oedd eisiau ysgrifennu at eu Haelodau Seneddol.
- Ysgrifennodd y Prif Weithredwr, Joe Powell at y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau.
- Siaradodd y Prif Weithredwr, Joe Powell, mewn sesiwn friffio AS ar-lein a gynhaliwyd gan Steve Witherden AS, am effaith y newidiadau arfaethedig i fudd-daliadau a chymorth. Darllenwch beth ddywedodd joe yma – ImpactsOnthePathwaystoWorkGreenPaperWalesJoePowell20May
- Mynychodd Joe lobi fawr yn Neuadd San Steffan , Llundain ynghylch effaith y toriadau arfaethedig ar bobl anabl.
- Mynychodd AWPF y digwyddiad ymgynghori swyddogol yng Nghymru ynghylch y Papur Gwyrdd Llwybrau at Waith.
- Cyflwynodd AWPF ymateb i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd Llwybrau at Waith
Mwy o wybodaeth yn dod yn fuan!
Beth allwch chi ei wneud?
- Ysgrifennwch at eich AS, i roi gwybod iddo am eich pryderon ac i ofyn iddynt gynrychioli eich barn.
- Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am yr awgrymiadau yn y Papur Gwyrdd. Bydd hyn yn ein helpu i ysgrifennu ein hymateb i’r ymgynghoriad. Ebostiwch kelly@allwalespeople1st.co.uk neu anfonwch neges trwy Facebook Messenger
Mwy o wybodaeth yn dod yn fuan!

Cwmni sydd yn gyfyngedig drwy warant : Rhif: 6833956
