Member Login

DRILL (Ymchwil Anabledd Byw’n Annibynnol a Dysgu)

Mae’r prosiect Drill yn ymwneud â gweithio’n gydgynhyrchiol gyda phobl ag anableddau, a rhai heb anableddau, ar bethau sydd yn gwella’u bywydau.

Pwrpas y prosiect DRILL ydy dylunio pecyn gwaith hunan-eiriolaeth. Bwriad hyn ydy helpu grwpiau lleol i wirio os yw aelodau yn arwain eu prosiectau mewn gwirionedd. Bydd hefyd yn gymorth i ddangos sut maent yn cyrraedd y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Gobeithiwn y bydd hyn yn eu cynorthwyo i lwyddo gydag ariannu awdurdod lleol.