Member Login

Trwy Ein Llygaid 2020-2022

  Ydych chi wedi gweld y llyfrgell lluniau?  http://www.awpf.online/photo-library  

#TrwyEinLlygaid0

 

Diweddariad: Bydd Arddangosfa Trwy Ein Llygaid ar daith rhwng 19 Tachwedd a 13 Ionawr yn Pontio, Prifysgol Bangor.

https://allwalespeople1st.co.uk/digwyddiadau-a-hyfforddiant/trwy-ein-llygaid-ar-daith/?lang=cy

Gallwch edrych ar wefan Pontio am oriau agor https://shorturl.at/dwFea. 

 

Dechreuodd prosiect Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan ‘Trwy Ein Llygaid’ yn 2020 a daeth i ben ym mis Rhagfyr 2022. Roedd arddangosfa yn y Senedd  o fis Tachwedd 2022 tan fis Chwefror 2023.

Rydym yn gobeithio dod o hyd i ragor o gyllid i fynd â’r arddangosfa o amgylch Cymru.

Penderfynodd ein haelodau pa straeon sy’n bwysig i’w rhannu. Rydym yn ddiolchgar i bawb a gefnogodd ein gwaith. Rhoddodd llawer o bobl eu hamser i gymryd rhan yn ein sesiynau tynnu lluniau a ffilmio. Mae ein gwaith wedi cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rhaglen Pawb a’i Le.

 

Y ffotograffwyr Trwy Ein Llygaid:

 

Natasha Hirst, Rheolwr Prosiect & Ffotograffydd

      Lucy Hinksman, Gweithiwr Prosiect & Ffotograffydd

 

 

Ddim mor bell yn ôl, byddai llawer ohonom wedi bod yn byw bywydau sefydliadol. Yn awr fodd bynnag, byddai bellach yn torri ein hawliau dynol i’n cau i ffwrdd dim ond oherwydd bod gennym anableddau dysgu. Brwydrasom yn galed dros ein hawliau dynol. Rydym yn hunan-eiriolwyr. Mae hunan-eiriolaeth yn golygu siarad drosoch eich hun. Mae’n helpu person i gael llais yn y penderfyniadau pwysig sy’n effeithio ar eu bywyd.Mae hunan-eiriolaeth yn rhoi dewis a rheolaeth i ni. Mae’n ein helpu i fod yn annibynnol. Mae hunan-eiriolaeth yn caniatáu i ni fod yn rhan o’n cymunedau. Rydym yn falch o ddathlu ein rolau gwerthfawr a’r cyfraniadau a wnawn yn ein cymunedau. Rydym yn wirfoddolwyr, gweithwyr, aelodau o’r teulu, partneriaid, priod, rhieni, aelodau tîm, pencampwyr cymunedol, mabolgampwyr, myfyrwyr, addysgwyr a llawer mwy.

 

Mae cynrychiolaeth gadarnhaol yn bwysig. Mae ein harddangosfa yn herio canfyddiadau a stereoteipiau trwy amlygu rolau a gweithgareddau gwerthfawr pobl ag anableddau dysgu yn ein cymunedau. Mae ‘Trwy Ein Llygaid’ hefyd wedi creu llyfrgell luniau rhad ac am ddim fel y gellir rhannu ein straeon a’n lluniau yn ehangach. Mae’r lluniau a welwch yn giplun o eiliad yn ein bywydau. Nid yw’n dangos stori lawn popeth rydyn ni wedi bod drwyddo i gyrraedd y pwynt hwn. Mae llawer o rwystrau diangen o hyd sy’n ein hatal rhag gwneud penderfyniadau. Mae anghydraddoldebau dwfn yn bodoli ym mhob rhan o’n bywydau. Mae hyn yn cynnwys mynediad i ofal iechyd, addysg a chyflogaeth. Mae’r anghydraddoldebau hyn yn cyfyngu ar ein cyfleoedd, ein rhyddid a hyd yn oed disgwyliad oes. Gallwch ddysgu mwy am hyn ym maniffesto Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan. Mae cryfder, urddas ac undod aruthrol yn y gymuned anabledd dysgu.

 

Ni fyddwn byth yn stopio ymladd dros ein hawliau dynol. Cofiwch, eich hawliau dynol ni yw eich hawliau dynol chi hefyd.

Fe wnaethom arddangos rhai o’r delweddau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ym mis Awst 2024.

Gofynnom i ymwelwyr roi dot ar ein map i awgrymu ardaloedd o Gymru lle hoffent i’r arddangosfa fynd ar daith.  

Gallwch weld ein montage Eisteddfod ar ein sianel TikTok

https://www.tiktok.com/@allwalespeoplefirst/video/7405181443917303072?is_from_webapp=1

Dyma llyfrgell luniau Prosiect Trwy Ein Llygaid  https://allwalespf.free.resourcespace.com/pages/collections_featured.php?parent=14&k=bdce2857dd

 

Welsoch chi’r arddangosfa yn y Senedd? Byddem wrth ein bodd yn gwybod beth rydych yn ei feddwl  https://forms.office.com/r/KvYwgqg0U3

Ffilm arddangosfa Trwy Ein Llygaid https://www.youtube.com/watch?v=2oCwo-LVF2I