Mae ein haelodau’n siarad llawer am bwysigrwydd cael eu lleisiau wedi’u clywed.
Mae pleidleisio yn etholiad y Senedd yn ffordd berffaith o ddweud eich dweud am bwy rydych chi am ei weld yn y llywodraeth nesaf.
A fyddwch chi’n pleidleisio ar 7fed Mai?
Fideo gwybodaeth
Yn y clip hwn, mae Kelly Stuart – Rheolwr Polisi a Chyfathrebu AWPF yn siarad am etholiad y Senedd 2026. Mae Kelly yn egluro rhai o’r newidiadau i’r system bleidleisio, a sut y gallwn bleidleisio https://www.youtube.com/watch?v=41-LLgpaymw
Nid yw bob amser yn hawdd penderfynu dros bwy rydych chi am bleidleisio.
Efallai bydd yn ddefnyddiol i chi ddarllen maniffestos y pleidiau. Mae maniffesto yn ddogfen lle mae plaid yn dweud beth fydd yn ei wneud os bydd yn mynd i mewn i Lywodraeth.
Gwnaeth Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan faniffesto i roi gwybod i bob plaid beth rydyn ni eisiau gan Lywodraeth newydd Cymru. Gallwch ddarllen ein Maniffesto yma https://allwalespeople1st.co.uk/wp-content/uploads/2025/11/W-Manifesto-2026-1.pdf
Maniffestos y pleidiau
Yn y cyfnod cyn yr etholiad ym mis Mai, byddwn yn rhannu maniffestos y pleidiau gyda chi.
Mae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn niwtral yn wleidyddol ac nid oes ganddo unrhyw gysylltiad ag unrhyw blaid wleidyddol benodol.
Dyma faniffestos y pleidiau sydd wedi’u rhyddhau hyd yn hyn.
Plaid Cymru – cynllun 100 diwrnod yma:
https://www.plaid.cymru/100diwrnod
Ceidwadwyr Cymru – fersiwn lawn yma:
https://www.conservatives.wales/files/2026-03/Welsh%20Conservatives%20Manifesto%202026%20CY.pdf
Reform UK – fersiwn lawn o faniffesto Cymru yma:
https://www.reformparty.uk/view-pdf/welsh-manifesto
Llafur Cymru – fersiwn llawn a hawdd eu ddarllen yma:
https://www.welshlabour.wales/maniffesto-2026-2/?lang=cy
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – dim maniffesto wedi’i lansio eto. Dyma ddolen i’w hymgyrchoedd
https://www.demrhydd.cymru/chwarae-rhan/ein-hymgyrchoedd/
Green Party Cymru – Dim maniffesto eto. Dolen i’w gwefan yma
https://wales.greenparty.org.uk/cy/
Byddwn yn ychwanegu maniffestos pleidiau eraill yma, pan fyddant ar gael.
Canllawiau Hawdd eu Ddarllen
Mae ein ffrindiau draw yn Anabledd Dysgu Cumru wedi cynhyrchu canllawiau hawdd eu darllen…
Canllaw Hawdd ei Ddarllen i etholiad y Senedd:
Canllaw i ymgeiswyr:

Cwmni sydd yn gyfyngedig drwy warant : Rhif: 6833956
