
Seremoni Gwobrau MIRROR
June 24 @ 8:30 pm - 9:30 pm
Events and Training Navigation

Y Seremoni
Byddwn yn cynnal ein Gwobrau MIRROR blynyddol ar noson AdFest 24ain Mehefin.
Mae seremoni wobrwyo MIRROR yn cynnwys pryd gyda’r nos 3 chwrs.
Y gwobrau
Mae Gwobrau MIRROR yn dathlu’r pethau gwych y mae hunan-eiriolwyr aganableddau dysgu a’u grwpiau wedi gwneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r enillwyr yn derbyn gwobr gwydr wedi’i ysgythru a thystysgrif.
Y 6 gwobr:
Aelodau – Gwobr Goffa Linton Gower
Mae’r wobr hon ar gyfer aelod neu aelodau sydd wedi gwneud rhywbeth rhagorol tuag at redeg eu grŵp hunan-eiriolaeth.
Diolch in Mencap Cymru am noddi eleni.
Gwobr Syniadau
Mae’r wobr hon ar gyfer aelod, neu grŵp, sydd wedi gweithio gyda nhw eraill ar syniad. Dylai’r syniad fod yn rhywbeth sy’n gwella
bywydau pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru.
Gwobr Hawliau
Bydd y wobr hon yn mynd i aelod neu grŵp sydd wedi helpu pobl i wybod am eu hawliau neu gael mynediad iddynt.
Gwobr Myfyrio
Bydd y wobr hon yn mynd i aelod neu grŵp a all ddangos eu bod wedi dysgu o’u profiadau ac wedi gwneud newid.
Gwobr Sefydliad
Mae’r wobr hon ar gyfer grŵp sydd wedi gweithio gyda’i gilydd i fod yn grŵp cryf ac wedi cynnwys pawb.
Gwobr AdolyguMae’r wobr hon ar gyfer grŵp neu aelod sydd wedi cyflawni
rhywbeth arbennig.
Enwebu rhywun
Gallwch enwebu eich hun neu rywun arall trwy lenwi’r ffurflen hon
http://www.awpf.online/mirror-nominationCYM
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 25 Ebrill
Mae Joe yn esbonio mwy am y broses yma: https://youtu.be/XAUzsB2gxpk
Noddi
Gwahoddir noddwyr i fynychu’r seremoni sy’n cynnwys pryd gyda’r nos 3 chwrs.
Buddion noddi:
- Lle yn y seremoni wobrwyo MIRROR a chinio yn Kinmel a Kinspa , Abergele, Conwy (mae croeso i gynrychiolwyr ychwanegol. Cost £35 y pen).
- Cydnabyddiaeth drwy gydol ein cynhadledd 2 ddiwrnod.
- Brandio a chydnabyddiaeth wedi’u cynnwys yn ein pecynnau AdFest i gynrychiolwyr.
- Brandio a chydnabyddiaeth ar y sgrin yn ystod y cyflwyniad Gwobr MIRROR
- Brandio ar gyhoeddusrwydd Gwobrau MIRROR, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol.
- Mae noddwyr yn cael eu cydnabod ar ein tystysgrifau gwobrau
- Gwahoddir noddwyr i gyd-gyflwyno eu gwobr noddedig (dewisol).
Opsiynau nawdd pecyn cynhadledd
Mae ein pecynnau cynrychiolwyr yn cael eu hargraffu’n broffesiynol mewn lliw llawn a’u rhoi i dros 140 o bobl yn ystod ein digwyddiad 2 ddiwrnod.
Drwy noddi ein pecyn, gallwch gael lle penodol i roi cyhoeddusrwydd i’ch sefydliad a/neu wasanaethau.
Gall hysbysebu gynnwys eich logos, brandio, bywgraffiadau sefydliadol, manylion cyswllt ac unrhyw beth arall yr hoffech i’n cynrychiolwyr wybod amdano.
Bydd noddwyr yn cael eu cydnabod trwy gydol y digwyddiad 2 ddiwrnod.
Hysbyseb tudalen lawn – £175
Hysbyseb hanner tudalen – £100