- This event has passed.
Gwobrau MIRROR 2024
June 19 @ 7:00 pm - 8:00 pm
Events and Training Navigation
Y seremoni wobrwyo
Cynhelir Seremoni Wobrwyo MIRROR eleni yn ystod ein digwyddiad AdFest yn y Future Inn Caerdydd ar 19 Mehefin.
Fe’i cynhelir gyda’r nos o 7.30pm
Mae Gwobrau MIRROR yn dathlu’r pethau gwych y mae hunan-eiriolwyr a grwpiau wedi’u gwneud dros y flwyddyn ddiwethaf.
Cyhoeddir yr enillwyr yn ystod y seremoni wobrwyo ac maent yn derbyn gwobr gwydr wedi’i ysgythru a thystysgrif.
Enwebiadau gwobrau
Gallwch enwebu eich hun ar gyfer gwobr MIRROR neu gallwch enwebu rhywun arall ar gyfer gwobr.
Bydd angen i chi roi gwybod i ni pam rydych chi neu’r person yn haeddu gwobr. Gallwch chi ysgrifennu’r rheswm i lawr neu gallwch chi wneud fideo.
E-bostiwch joe@allwalespeople1st.co.uk os hoffech gael cymorth i enwebu
Rhaid derbyn pob enwebiad erbyn 5pm ddydd Gwener 26 Ebrill am 5.00pm
Dyma wybodaeth Hawdd i’w Darllen am enwebu Gwobrau MIRROR 2024
wMIRROR-Award-nomination-info-2024
Mae 6 gwobr MIRROR
M
Aelodau – Gwobr Goffa Linton Gower (diolch i Mencap Cymru am noddi’r wobr hon 2023-2027)
Mae’r wobr hon ar gyfer aelod, neu aelodau, sydd wedi gwneud rhywbeth rhagorol tuag at redeg eu grŵp Hunan-Eiriolaeth.
Syniadau
Mae’r wobr hon ar gyfer aelod, neu grŵp, sydd wedi gweithio gydag eraill ar syniad. Dylai’r syniad fod yn rhywbeth sy’n gwella bywydau pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru.
Hawliau
Bydd y wobr hon yn mynd i aelod neu grŵp sydd wedi helpu pobl i ddysgu am eu hawliau.
Myfyrio
Bydd y wobr hon yn mynd i aelod neu grŵp a all ddangos eu bod wedi dysgu o’u profiadau ac wedi gwneud newid.
Mudiad
Mae’r wobr hon ar gyfer grŵp sydd wedi gweithio gyda’i gilydd i fod yn grŵp cryf ac wedi cynnwys pawb.
Adolygiad
Mae’r wobr hon ar gyfer grŵp neu aelod sydd wedi cyflawni rhywbeth arbennig.
Noddi gwobr
Mae noddi Gwobr MIRROR yn costio £150
Mae noddi bwrdd yn y seremoni wobrwyo a chinio MIRROR yn costio £280
Mwy o wybodaeth am noddi yma
wMIRROR Award sponsorship 2024
Cwblhewch y ffurflen ar-lein yma os hoffech noddi bwrdd neu wobr
http://www.awpf.online/mirror-sponsorshipwelsh