Member Login

Events & Training

Loading Events and Training

« All Events and Training

  • This event has passed.

Dathliad Trwy ein Llygaid

24th November 2022 @ 2:00 pm - 4:00 pm

Events and Training Navigation

 

Mae Trwy Ein Llygaid yn rhannu straeon pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru, mewn ffotograffau a fideos. Mae ein harddangosfa yn herio canfyddiadau a stereoteipiau, drwy amlygu rolau a gweithgareddau pobl ag anableddau dysgu yn ein cymunedau – rolau a gweithgareddau o bwys mawr.  

 Mae delweddau’n dylanwadu ar y ffordd ry’n ni’n meddwl am bobl. Gall hyn effeithio ar y cyfleoedd sydd gan bobl mewn bywyd. Aeth aelodau Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan ati i wella sut y cânt eu cynrychioli yn y gymdeithas drwy greu lluniau a fideos cadarnhaol a grymusol. Ry’n ni’n dathlu ein llwyddiannau ym meysydd cyflogaeth, gwirfoddoli, chwaraeon ac addysg, yn ogystal â meysydd eraill o fywyd.  

 Cewch ddysgu rhagor am y rhwystrau i fyw’n annibynnol a’r gwaith y mae ein hunan-eiriolwyr yn ei wneud er mwyn creu byd mwy cynhwysol a hygyrch i bawb. Mae’n cynnig y cyfle i ddysgu am yr hyn sy’n bwysig i’n cymuned a phwysigrwydd trin pawb ag urddas a pharch.  

 Mae Trwy Ein Llygaid yn cynrychioli pobl ag anableddau dysgu yn eu geiriau eu hunain, a sut y maen nhw’n gweld eu hunain.  

 Ymunwch â ni i greu darlun amgenach. 

Bydd lluniaeth ysgafn ar gael. Rhowch wybod i ni erbyn 10fed Tachwedd os ydych yn gallu mynychu drwy e-bostio admin@allwalespeople1st.co.uk

Gellir gweld yr arddangosfa rhwng Tachwedd 16eg 2022 a Chwefror 4ydd 2023.

Oriau agor yr arddangosfa:

Dydd Llun – Dydd Gwener: 09.00 – 16.30

Dydd Sadwrn a gwyliau banc: 10.30 – 16.30

Ar gau dydd Sul

Gall oriau agor y Nadolig amrywio – edrychwch ar wefan y Senedd am ragor o fanylion! https://senedd.cymru/

 

Details

Date:
24th November 2022
Time:
2:00 pm - 4:00 pm

Venue

https://senedd.wales/