Member Login

Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld ar gyfer ein Cynhadledd Genedlaethol AdFest 2018!

author icon author icon 11/10/2018 author icon Bocs Sebon Joe

Rydw i wedi bod yn brysur gyda’r tîm yn ddiweddar, gan baratoi ar gyfer ein Cynhadledd Genedlaethol fawr Adfest yr wythnos nesaf!
Rydym bron yn barod ac yn edrych ymlaen at eich gweld chi i gyd ar ddydd Mawrth 16 a dydd Mercher 17eg.

Dyma’r gynhadledd fawr gyntaf yng Ngogledd Cymru, ac rwy’n falch o roi gwybod i chi i gyd ei bod wedi’i llenwi’n llawn. Mae ein digwyddiad wedi bod mor boblogaidd, mae pob ystafell wely yn y gwesty wedi gwerthu allan hefyd!

Fel arfer, rydym wrth ein bodd yn croesawu cymaint o aelodau llawn a staff cymorth a fydd yn ymuno â ni. Byddwn hefyd yn croesawu rhai arddangoswyr newydd a siaradwyr gwadd ar gyfer y prif ddigwyddiad AdFest ddydd Mercher.

Byddwn hefyd yn lansio a rhannu ein Pecyn Cymorth newydd ar gyfer grwpiau hunan-eiriolaeth. Mae’r pecyn cymorth wedi’i gynhyrchu fel rhan o brosiect partneriaeth a ariennir gan DRILL.

Rydym i gyd yn edrych ymlaen at eich gweld yr wythnos nesaf!
Joe Powell – Cyfarwyddwr Cenedlaethol

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *