Member Login

Cynhadledd Genedlaethol 2018

author icon author icon 31/01/2018 author icon Bocs Sebon Joe

Rwy’n falch iawn y cynhelir y Gynhadledd Genedlaethol eleni yng Ngogledd Cymru.

Penderfynwyd hyn gan y Cyngor Cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2017.

Cytunodd y Cyngor ei bod yn deg gan nad yw Pobl Gyntaf Cymru Gyfan erioed wedi cael cynhadledd yng Ngogledd Cymru

Nid yw hyn oherwydd nad ydym yn poeni am ein haelodau yng Ngogledd Cymru.

Ac nid yw hyn oherwydd nad ydym yn credu bod Gogledd Cymru’n bwysig.

Un o’r rhesymau mawr dros leoliad y gynhadledd yw bod y rhan fwyaf o grwpiau ac aelodau lleol yn byw yn Ne Cymru

Nid oeddem yn siŵr a fyddai digon o aelodau yn mynychu cynhadledd yng Ngogledd Cymru.

Pleidleisiodd y Cyngor Cenedlaethol y dylem gynnal cynhadledd yng Ngogledd Cymru.

Hoffwn ddiolch iddynt am yr aeddfedrwydd a ddangoswyd wrth wneud y penderfyniad hwn.

Roeddent yn meddwl am yr hyn fyddai orau i bob aelod yng Nghymru. Nid yn unig beth fyddai orau iddynt hwy eu hunain.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *